Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Mawrth 2018
Amser:
10.10 -
12.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4536
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC (Cadeirydd dros dro) Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn Claire Morgan, Estyn Meilyr Rowlands, Estyn |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Sian Thomas (Clerc) |
1.1 O dan Reol Sefydlog 17.22 etholwyd John Griffiths yn Gadeirydd dros dro.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn. Cytunwyd i ddarparu gwybodaeth am y canlynol:
· Nodyn ar enghreifftiau o ysgolion sydd wedi gwneud cryn gynnydd o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys, ac eglurhad o'r hyn y byddech yn ei ystyried fel gwneud cynnydd sylweddol i gau'r bwlch.
· Nodyn ar enghreifftiau o ddefnydd effeithiol o'r Grant Datblygu Disgyblion ar blant sy'n derbyn gofal neu blant mabwysiedig, a hefyd ar unrhyw ddefnydd aneffeithiol.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau na chawsant eu gofyn oherwydd cyfyngiadau amser.
3.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith Esytn o ran ei adroddiad
blynyddol.
4.1
Nodwyd y papur.
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Rhaglen Hwb Llywodraeth
Cymru
5.1 erbyniwyd y
cynnig
6.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.
7.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. Cytunodd yr Aelodau i gymryd tystiolaeth bellach.